Caniadau'r Allt/Suo-gan Peredur

Oddi ar Wicidestun

Rhowch destun heb ei fformatio yma

Cathl y Gwahodd Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Calendr Serch


SUO-GÂN PEREDUR.

Si bei o fewn dy gwrwgl gwyn,
Si bei, fy marchog bychan;
Mi, fwmiaf innau gân Gymraeg
O'r amser gynt i'th hwian.

Da'r bychan, cau dy lygaid tlws,
Rhag ofn i'th fam wirioni;
Ond pe na welai monynt mwy,
Beth, beth a ddôi ohoni.

Mi wn nad yw dy dad ond bardd,
A bardd o waed y werin;
Ond ni wnawn i dy garu'n fwy,
Pe bai dy dad yn frenin.

Dau rosyn ar dy ddwyfoch sydd,
A'r ddau fel am y tlysaf:
Mae un i mi, ac un i'th dad,
Ond p'run o'r ddau ddewisaf?

Wrth im dy fagu mawr yw 'mhoen,
Ond mwy fy 'mhoen pe hebddo;
A Duw fo'n dirion wrth y fam
Na fedd un bach i'w siglo.

Paham y gweni yn dy gwsg?
Oes rhywun am dy hudo
Oddiwrth dy fam? Pe coeliwn fod,
Mi frysiwn i'th ddihuno.

Un ffunud wyt â cheriwb bach,
Ym mhlygion dy obennydd;
Ond dyna 'nghysur i a'th dad,
Nad oes i ti adenydd.

1908

Nodiadau[golygu]