Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Cerddoriaeth
← Y Mynydd | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Yr Anudonwr → |
CERDDORIAETH.
(Buddugol.)
CERDDORIAETH bêr! llonder llu
Yw pwnc hon—nid poen canu;
Greddfol yw ei graddfa lon
Y'ngwlad engyl di-ingon:
Rhyw dorf fawr geinwawr eu gwedd
Chwâr eursain gylch yr Orsedd.
Lluniodd Ior yn llonwedd ddyn,
Cord hwyliog grëai 'i delyn;
Ac a hoender ein cyn—dad,
Eiliai dôn i'w nefol Dad.
Ond A! lleddfwyd, torwyd tant
Ei bêr gan—bur ogoniant;
A thrwy bechod isod daeth
Rhyw lewyg ar alawiaeth.
Rhua'r dón, cân afonydd,
Per dwsmel yr awel rydd;
Y cread rydd gainc ruol,
Ond er hyn mae cord ar ol.
Ymlid poen,—rhoi hoen a hedd
A wna 'i swynol berseinedd:
Adlais hon, hudolus yw—
Nefoledig fawl ydyw.
Ei seiniau'n nghynteddau'r Tad
Glywir, a'u myg alawiad,
Byrdon addolyddion lu
Yn ei gysegr ga Iesu.
Miwsig yn Salem Iesu
A chywair llon chwar y llu
Yno cenir cainc unol
I RAD RAS, heb gord ar ol.