Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Mynydd
Gwedd
← Galanas y Fellten | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Cerddoriaeth → |
Y MYNYDD
LLE unig, ban, a llonydd—heulog fan
Golygfeydd yw'r mynydd;
Mwynder hoen i'm henaid rydd—
Doniol bwlpud awenydd.
Am ei goryn myg wyro—wna' cwmwl,
Cymer ei sedd arno;
Gwynfaol, deg nifwl dô
Draw estyn orchudd drosto.
Hyd ei oror y daran—ddaw eilwaith,
Gyrr ddolef drwy bobman;
Llidiog dwrf y melltiog dân
Enyna galon anian.
Wele fan tarddle afonydd,—tudwedd
Gwyllt adar yw'r mynydd;
Aros ar ei uchder sydd
Yn rhwym hoelio'r ymwelydd.