Neidio i'r cynnwys

Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Pen Blwydd Arthur Madog

Oddi ar Wicidestun
Englyn ar Gerdyn Coffadwriaethol fy Nhad Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Fall fawr Chwarel y Welsh Slate, Ffestiniog

PEN BLWYDD "ARTHUR MADOG,"[1]
(Mebyn Dr. Jones, Bl. Ffestiniog.)

EGINYN tlws ei gynydd,—heddyw'n flwydd
Ddaw'n ei flaen yn 'splenydd;
Arwydda hyn daw ryw ddydd
Yn deilwng o ardalydd.

Barn gwlad am Arthur Madog—yw y dêl
Fel ei dad yn enwog:
Caed oes faith a thaith o hedd,
A rhinwedd yn goronog.


Nodiadau

[golygu]
  1. Dr Arthur Madock Jones 1889-1961. Bu'n uwchgapten yn yr RAMC (adran feddygol y fyddin) yn y ddau ryfel byd ac yn feddyg teulu yn Llandudno. [Erthygl coffa North Wales Weekly News, Mehefin 1961]