Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Llanerch dan yr Yw
← Y Dderwen | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Cywydd "Y Cwmwl" → |
Y LLANERCH DAN YR YW.
FE dyfai ywen brydferth
Ger bwth fy mam a 'nhad,
A threuliais oriau difyr
O dan ei changau mâd.
Mae hen chwareuon mebyd
I'm côf yn dod yn fyw,
Wrth wel'd y gysegredig
Hoff fangre dan yr Yw.
Bu'r Ywen hon yn noddfa
Rhag llawer drycin flin;
Bu'n dyst o lawer brawddeg
Ddiferodd dros fy min;
Awelon tyner natur
A wnaent delynau cerdd
O gangau heirdd godidog
Yr hoff hen Ywen werdd.
Pan mewn ystormydd geirwon,
A'r byd heb swyn na cherdd, —
Ehêd fy meddwl beunydd
O dan yr Ywen werdd,
Fe guddiodd hon a'i changau
Ofidiau byd o'm bron;
Adgofion fyrdd a erys
O'r llanerch ddedwydd hon.
Mae dyn yn cael ei symud
Gan amgylchiadau'r byd,
Ond para'r un er hyny
Yr ydwyt ti o hyd.
Cyn hir rhaid myn'd i orphwys
O gyraedd cân a cherdd,
O am gael llanerch beddrod
O dan yr Ywen werdd.