Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Wialen Fedw
Gwedd
← Bryniau Meirionydd | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Blinedig Wyf → |
Y WIALEN FEDW.
DIHAFAL deyrnwialen—reola
Yr aelwyd yw'r Fedwen,
Arf a lywia'r aflawen
Yw mân-frig y breinfrig bren.
Yn ofid i'r anufudd—y ceir hon,
Cryna rhag ei brigwydd;
Lleshad yn ei llaw hi sydd
A chariad yn ei cherydd.