Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Ymson y Bardd
Gwedd
← Tanchwa Cilfynydd | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Y Gwlaw → |
YMSON Y BARDD.
O mor felus ydyw cofio
Dyddiau dedwydd boreu oes,
Cyn i flinder amgylchiadau
Chwerwi'r fron ag awel groes.
Llithro wnaeth yr hen chwareuon
A'r teganau bob yr un:
Dringais inau'n ddiarwybod
Risiau oes nes d'od yn ddyn.
O na bawn yn ddyn meddylgar,—
Dyn o synwyr—dyn o ddawn,—
Dyn o feddwl athrylithgar,—
Dyn caredig, parod iawn—
Parod iawn i fyw i eraill,
Parod i ddyrchafu 'i wlad;
Byw yn dduwiol i gymdeithas,—
Dyna'r dyn gâ wir fwynhad.
Byw yn seren oleu eglur
Yn fturfafen "gwlad y gân,'
Yw fy nôd a'm penderfyniad—
Teimlaf fod fy mron yn dân,
Canaf glodydd gwlad y delyn,
Codaf urddas Gwalia Wen;
Er fy marw, Cymru fyddo
Yn obenydd dan fy nhen.