Caniadau Buddug/Ann Griffiths

Oddi ar Wicidestun
I chwaer yn ei chystudd Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Gwawr (dyfyniad)

ANN GRIFFITHS.

AETH heibio i deganau'r llawr,
Aeth hwnt i ser y nen,
Uwchlaw i'r cymyl, at y wawr
Cartrefa draw i'r llen:
Cyffyrddodd yn y goleu claer
Sydd ar yr orsedd lân
Nes dwyn y Gair yn sylwedd byw,
Tragwyddol yn ei chân.

Nid oedd ond Gethsemane Ardd,
R'odd iddi Faban Mair;
Ei Nardus a'r Phomgranad teg,
A dyfodd yn y Gair.
Ni feddai anian iddi hi
'Run swyn, na bri o'r bron,
Cydgasglodd holl ogoniant byd
I Rosyn Saron hon.