Caniadau Buddug/I chwaer yn ei chystudd

Oddi ar Wicidestun
Dirwest Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Ann Griffiths

I CHWAER YN EI CHYSTUDD.

ANWYL chwaer, paid digaloni,
Dan dy gystudd blin,
Cuddia'r cwmwl wiw oleuni,
A thynerach hin.
Anwyl chwaer, O, paid a wylo,
Golli cysegr Duw;
Y mae afon Duw yn ffrydio
I'r lle 'rwyt yn byw.

Iesu fu dy gyfaill goreu
Ar hyd dyddiau'th oes;
Braint dy fywyd er yn foreu
Y doedd "Stori'r Groes."
Croes yr Iesu ydoedd honno,
Gariodd er dy fwyn;
Tithau nerth a gefaist yno,
Dan bob croes, i'w dwyn.

Rhoist dy fywyd di dy hunan
Iddo'n ol ddinam,
Gelli gyfri'th dŷ yn gyfan,
Gyda Duw eu mam.
Gwyn dy fyd di, fam yn Seion,
Mwy gwyn fyd dy le,
Er rhwng erchwyn gwely'n gyson,
'Rwyt ynghyfri'r ne.

Gŵyr yr Iesu dy gystuddiau,
Bu yn glaf ei hun,
Cofia heddyw'th gymwynasau,
Iddo bob yr un;

Mae mewn syched, mae'n newynu,
Eto yn ei blant,
Tithau gefaist arno weini,
Trwy ddiwallu'u chwant.

Nodded nef ymdaeno drosot,
Torred arnat wawr,
Gweddi daer sy'n esgyn erot
At y "Meddyg Mawr;"
Mwy yw Ef na phob afiechyd,
Na gwendidau'r byd,
Gall Efe droi'r oll yn fywyd,
Ac yn "Haf o hyd."