Neidio i'r cynnwys

Caniadau Buddug/Ar farwolaeth Jane Catherine

Oddi ar Wicidestun
Cartref Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Mewn album (1)

AR FARWOLAETH JANE CATHERINE.

DAETH Haul Cyfiawnder yn ei rym,
Tywynnodd yn ei bron,
A gwnaeth ei hysbryd puraidd hi'n
Rhy dda i'r ddaear hon,
Ehedodd fry uwch llygredd byd
Mewn gwisg ddilychwin wen,
Ac engyl nef ar frys am roi
Y goron ar ei phen.

Blodeuyn prydferth ydoedd hi,
Yn cario lliwiau'r nef,
A pherarogledd rhwng ei ddail,
Pur sawr ei arogl Ef:
Nid rhyfedd i'w rhieni hoff
Ei charu ar y llawr,
Yr un mor fuan oedd i fod
Ym mhwysi'r Brenin Mawr.