Caniadau Buddug/Cartref

Oddi ar Wicidestun
Ymadawiad cyfeillion i'r Maes Cenhadol Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Ar farwolaeth Jane Catherine

CARTREF

O! ENW gorswynol, fy nghartref hyfrydol,
Da gen' i dy ganmol heb gyni,
Mae'th lun ar fy nwyfron, yn gosod yn gyson
Beth ddywed y galon heb gulni;
Dymunaf gael aros, ar ferr—nos a hir—nos,
A gorffwys yn ddiddos tra fyddaf
Ar aelwyd fy nghartref a'm teulu mewn tangnef,
Gogonedd fy ngwiwnef a ganaf.