Caniadau Buddug/Ymadawiad cyfeillion i'r Maes Cenhadol

Oddi ar Wicidestun
Y weddw Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Cartref

AR YMADAWIAD CYFEILLION I'R MAES CENHADOL

O BOED i'r hwn a biau'r gwaith,"
Eich cynnal ar bob cam o'ch taith;
Anghofiwch holl negesau'r llawr
Wrth gofio am eich neges fawr.

Boed i bob cam a ro'wch ynghyd
Gael boed yn bregeth bur i'r byd;
Eich ysgogiadau bob yr un
Gyhoeddo'n deg am Geidwad dyn.

Anghofiwch bob ffarwelio trist,
Anghofiwch bawb ond Iesu Grist,
Ac ynddo Ef cawn ninnau ran,
A chwrddyd eto yn y man.