Neidio i'r cynnwys

Caniadau Buddug/Aros yn yr Iesu

Oddi ar Wicidestun
← Cerdyn Nadolig Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Neges John →

AROS YN YR IESU.

Aros yn yr Iesu, yn ei gariad drud
Aros yn y dirmyg gafodd yn y byd,
Aros yn ei glwyfau, yn ei farw trist,
Dyna fydd ein Nefoedd, aros byth yng Nghrist.