Caniadau Buddug/Cerdyn Nadolig

Oddi ar Wicidestun
Priodas Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Aros yn yr Iesu

CERDYN NADOLIG

BOED llawenydd diddan diddig
I chwi oll ar Ddydd Nadolig,
Mwy na hynny, boed i'ch llonder
Bara'n hwy na dyddiau'r ddaear.
Bydded i chwi sylweddoliad,
Ar y dydd y ganwyd Ceidwad,
Ceidwad i rai gwael colledig,
Boed ei enw'n fendigedig;
Am ei ddwyfol gariad rhyfedd
Rhoddwn iddo wiw glodforedd.