Caniadau Buddug/Blodau ac adar
← 1905 | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Tyred i Gymru → |
BLODAU AC ADAR.
I GWMNI yr adar a'r blodau,
I'r maesydd a'r dolydd ni awn:
I yfed bendithion y bryniau,
A ffrydiant fel nectar yn llawn;
Yr Awen sydd yno bob boreu,
Yn sibrwd i glustiau y gerdd,
A natur yn paentio ei goreu,
Bob cangen a deilen yn werdd.
'Rwy'n hoffi'r aur melyn o Ophir,
'Rwy'n caru enwogrwydd a bri,
Ond mwyniant rhagorach a ddygir
Gan adar a blodau i mi;
Gogoniant v ddaear yw'r blodau,
Gogoniant yr awyr yw'r gân,
Mae nefoedd yn wir yn yr odlau,
Sy'n rhoddi fy mynwes ar dân.
Mae'r gaeaf i ddod gyda'i stormydd,
I dewi holl adar y coed ;
I wywo gogoniant ysblennydd,
Y blodau prydferthaf erioed ;
Er hynny mae'r eos fwyneiddlwys
I ganu dan fantell y nos,
Ac ambell i flodyn pereidd-lwys
I wenu ar feddrod y rhos.
—————————————
YR EHEDYDD.
Gogoniant y ddaear yw'r blodau,
Gogoniant yr awyr yw'r gân."
—————————————