Caniadau Buddug/1905

Oddi ar Wicidestun
Senedd Prydain Fawr Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Blodau ac adar

1905.

1905 sydd flwyddyn i'w chofio,
Blwyddyn i'w chyfrif ar lechres y byd :
1905. Mae'n werth ei chroniclo,
Blwyddyn cynhaeaf eneidiau ynghyd :
Blwyddyn i Grist gael rhifo ei deulu,
Blwyddyn deheulaw Goruchaf yr Ior,
Blwyddyn, er hynny, nas gall Ei ddiwallu,
Nes dychwel y gweddill "o for i for."