Caniadau Buddug/Senedd Prydain Fawr

Oddi ar Wicidestun
Cranogwen Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
1905

SENEDD PRYDAIN FAWR.

TRA haul yn y ffurfafen,
A môr mewn dwyfol gryd;
A llygad yr Anfeidrol,
A'i olwg ar ein byd;
Boed deddfau Prydain anwyl,
Tra bo Prydeinwyr byw,
Yn gadarn sylfaenedig,
Ar nerthol Air ein Duw.

Yn ofer aiff adeilad,
Heb sylfaen gadarn gref;
Ac hanes tŷ y tywod
A fydd ei hanes ef;
Os el di-ras anffyddwyr
I'r Senedd, Brydain, clyw,
Oferedd disgwyl llwyddiant
Mewn gwlad lle nad oes Duw.

Dadleuir dros Ryddfrydiaeth,
Er agor llydan ddôr ;
Ond nid oes borth creedig
Gilgwthia ymaith Ior!
Ar brydferth bren Crist'nogaeth,
Y tyf ein rhyddid syw;
A'r afon bair ei gynnydd
A dardd o fynwes Duw.

Nid rhyddid fyddai gadael,
Diniwed blentyn glân
I chwareu yn ddiofal
A'r cynheuedig dân:
Nid rhyddid gadael plantos
Northampton, druain, wyw,
I gellwair gyda phethau
Y sydd mor llawn o Dduw.


Ein Senedd yw'n gogoniant,
A bri ein Senedd yw,
Fod ynddi ddynion dewrion,
Weithredant yn ofn Duw;
Dirgelwch mawredd Prydain,
Er aml groes a phair,
Yw'r parch a delir ganddi,
I'r Anffaeledig Air.

Na foed i'n sel ryfeddol,
Ein gyrru mor ddi-ball,
I sathru ar uniondeb
Yngrym rhyw bleidiaeth ddall;
Tynhaer rheffynau pechod,
Anffyddiaeth gwaetha'i ryw,
A bloeddiwn uwch Sant Stephan,
"Yr Arglwydd, Ef sydd Dduw."