Caniadau Buddug/Bythynod Gwynion Gwalia
Gwedd
← Boreu Oes | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Mis Ionawr → |
BYTHYNOD GWYNION GWALIA.
FEL addurniadau arian,
Puredig gan y tân,
Yw ein Bythynod Gwynion,
Ar fynwes gwlad y gân :
Awgrymant am y purdeb,
Feithrinir mewn cywirdeb;
Ar liniau gwiw moesoldeb,
O fewn eu muriau glân.
Ymffrostied beilch estroniaid,
Mewn adeiladau drud,
Cyfodant uchel dyrau,
I roi eu serch a'u bryd ;
Ymffrostiwn ninnau'n eon,
Yn ein bythynod gwynion,
Lle megir egwyddorion;
A bery'n hwy na'r byd.
Fe wyliodd claer angylion,
Lu o'r anneddau hyn;
Fe safodd anfarwoldeb
Uwch aml fwthyn gwyn;
Parhaed teg wenau Gwynfa,
Yn nawdd ac amddiffynfa,
Bythynod Gwynion Gwalia,
Tra haul a môr a bryn.