Caniadau Buddug/Mis Ionawr

Oddi ar Wicidestun
Bythynod Gwynion Gwalia Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Olwynion amser

MIS IONAWR.

MAE'R adar yn dechreu canu,
Ar frigau y goedwig lom;
Tithau, cod galon i fyny,
Er fod dy galon yn drom,
Chwilio am nodau ei garol,
Y mae yr aderyn mwyn,
Gollodd yn nhywydd gaeafol
Y llynedd, ynghwr y llwyn.

Buan y daw yr awelon
Dros emrynt y gwanwyn syw,
Gweithiant eu tannau yn dynion,
Dyhidlant yn odlau byw;
Tremiad yr heulwen a ddeffry
Alawon uwch llwyn a nant,
Yn asbri y chwaon chwery
Eu rhyfedd berorol dant.

Tithau, os collaist dy gywair,
Mewn trallod a thywydd blin;
Na foed i'th alar roi anair
I heulwen rhagorach hin:
Dyrcha dy olwg i fyny,
O gyrraedd y llwyni a'r llawr,
Dyna rydd fodd i ti ganu,
Edrych yn llygad y wawr.