Caniadau Buddug/Olwynion amser
Gwedd
← Mis Ionawr | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
I ferch ieuanc yn ei Beibl → |
OLWYNION AMSER.
Troi yn gyflym maent o hyd,
Ninnau ar y cantau'n mynd;
I ba le, fy anwyl ffrynd?
I ryw hafan dawel glyd.
Troed olwynion amser mwy,
Cadwn ninnau olwg fry,
Ni raid ofni rhwystrau lu,
Troant faint a fynnont hwy.
Taflant un o donn i donn,
Canwn ninnau ar y brig,
Collodd brig y donn ei dig
Yn ol troed ein Ceidwad llon.