Caniadau Buddug/I ferch ieuanc yn ei Beibl
Gwedd
← Olwynion amser | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Ffarwel aeaf blin → |
I FERCH IEUANC YN EI BEIBL.
CROG y llusern fendigedig.
Uwch dy lwybr man lle'r âi;
Wrth ei llewyrch perffeithedig
Cerdd yn fanwl a di fai;
Pan yn tynu'th draed i farw
Ei phelydrau gwerthfawr fydd
Yn goleuo t'w'llwch garw
"Cysgod angau" 'n foreu ddydd.