Caniadau Buddug/Ffarwel aeaf blin
Gwedd
← I ferch ieuanc yn ei Beibl | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Blodyn Eira → |
FFARWEL, AEAF BLIN.
FFARWEL, ffarwel aeaf blin,
Ffarwel ddu dymhestlog hin :
Hardd delynau hoew anian,
Ar yr helyg fu yn hongian,
Ond daw amser gwell yn fuan,
Yna ffarwel, aeaf blin.
Ffarwel, ffarwel aeaf blin,
Tyred hyfryd hafaidd hin,
Gwened haul i adgyfodi,
Ysbryd Duw i adnewyddu,
Gwyneb anian i adlonni,
Yna ffarwel, aeaf blin.
Ffarwel, ffarwel aeaf blin,
Tyn y gwanwyn teg dy fin;
Cân yr adar sy'n adgofio
Fod yn amser dy ffarwelio,
Paid yn wir a brysio eto,
Ffarwel, ffarwel aeaf blin.
Daw er hynny aeaf blin;
Ac ofnadwy arw hin;
Nad oes ond y nef awelon
All liniaru'r stormydd creulon,
A rhoi nerth i ddweyd yn eon,
Ffarwel, ffarwel aeaf blin.