Caniadau Buddug/Caru yr Iesu

Oddi ar Wicidestun
Yr "hen" Ann Griffiths Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Mis Tachwedd

CARU YR IESU.

'Rwy'n siwr nad af i uffern drist,
Yr wyf yn caru Iesu Grist;
Ac nid a cariad byth i'r tân;
Pe'r elai, fe ddiffoddai'n lân.

Ni âd fy Iesu i mi fynd,
Mae ef a mi yn ormod ffrynd;
Tra ynnof byddo'i gariad prid,
Fe'm gweryd rhag pob erchyll lid.

Mae cariad Iesu'n gylch o'm tu,
I'm cadw rhag gelynion lu;
A'i gariad yn fy mynwes sydd,
I'm cadw rhag pob drwg a fydd.

Yr wyf yn caru'r Iesu glân,
Rhag i mi fynd i uffern dân;
A mwy, 'rwy'n caru Brenin Nef,
Am fod fy nghalon ganddo Ef.