Caniadau Buddug/Yr "hen" Ann Griffiths

Oddi ar Wicidestun
Mefus a Hufen Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Caru yr Iesu

YR "HEN" ANN GRIFFITHS.

ANN GRIFFITHS. Pam yn hen?
Nid oedd ond ieuanc oedran,
Rhyw chwech ar hugain oedd pan aeth
I'r bedd o Ddolwar Fechan!
Bydd rhyw ieuenctyd byth
Ar fynwent Llanfihangel,
Nes daw ei chysegredig lwch
I ateb yr archangel!


Meddyliau nefol hen,
Mor hen a'r Hen Ddihenydd,
A rodd yr emynyddes hon
Mewn gwisg dragwyddol newydd;
Gwirionedd dwyfol Duw,
Fel sanctaidd dân yn ennyn;
A gobaith i bechadur tlawd,
Fel angor ymhob emyn.