Caniadau Buddug/Mefus a Hufen

Oddi ar Wicidestun
Ionawr eto Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Yr "hen" Ann Griffiths

MEFUS A HUFEN.

A y mefus melus cochion,
Rwyf yn diolch o fy nghalon:
Buont i mi'n iachawdwriaeth,
Well nac unrhyw feddyginiaeth.

Hefyd am yr hufen melyn,
Rwyf yn diolch yn ddiderfyn,
Ond tu hwnt i'r moethau amheuthyn,
Am y cariad sy'n eu canlyn.

Melus fefus yn fy nghlefyd,
Peraidd hyfryd hufen hefyd,
Ond melusach cydymdeimlad,
A phereiddiach cywair cariad.

Darfod wnaeth yr aeddfed ffrwythau,
Darfod wna pob peth fel hwythau:
Ond yn aros mewn eneiniad
Mae diddarfod ffrwythau cariad.