Caniadau Buddug/Croes
Gwedd
← Yr amddifad | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Cydymdeimlad a'r Parch Peter Ellis Ruabon → |
CROES.
Os wyt yn anwyl blentyn Duw,
Yn treulio iddo'th oes:
Dy etifeddiaeth ryfedd yw
Y chwerw, chwerw groes.
Mae croes mor sicr yn y byd,
A thelyn yn y nef;
Ond cofio'r Groes a gwyd dy fryd,
A bwysodd arno Ef.
Na lw frhaed dy galon wan,
Mae Un fu'n fwy ei loes;
A cheir esboniad yn y man,
Ar ddyrys drefn y groes.
Wrth gario'n iawn dy groes dy hun,
Er trymed ydyw hi;
Cei fod dy ysgwydd dan yr un,
A fu ar Galfari.