Caniadau Buddug/Cydymdeimlad a'r Parch Peter Ellis Ruabon

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Croes Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)
Pechod

CYDYMDEIMLAD A'R PARCH. PETER

ELLIS, RUABON.

DAETH yn nos ar y briodas,
Er mor hirfaith fu y dydd;
Dirwyn wnaeth y brydles addas,
Bur, i ben; aeth hithau'n rhydd:
Rhydd i hedeg at yr Iesu,
Priod anwyl gwlad yr hedd;
Rhydd i roi ffarwel i'w theulu,
Hwythau'n rhwym wrth byrth y bedd.

Peidiwch dannod iddi hedfan
I awyrgylch gwlad ddiboen;
Peidiwch grwgnach iddi drigfan,
Yn y gwynfyd gyda'r Oen;
Peidiwch cwyno, os y tybiwch
Bydd ei hanthem hi yn hwy,
Pan ewch yno chwi ganfyddwch
Mai rhyw ddechreu byddant mwy.

Dechreu, ac ail ddechreu wedyn,
Bydd yr Haleliwia lân;
Nes y del ynghyd bob nodyn,
O'r gorthrymus fyd i'r gân:
Yna canu ac ail ganu,
Pechod wedi gado'r dôn,
Ni bydd yno ond emynu
Cynghaneddion cariad Ion.

O gobeithio fod rhyw nodau
Yn yr anthem fawr Amen,
Nas gall seraph pur na seintiau
Fyth eu seinio yn y nen

O! ni gredwn fod telynau,
Yno ymysg yr euraidd lu,
Nas gali bysedd neb eu chwareu
Nes i'r gwynfyd elom ni.