Caniadau Buddug/Pechod

Oddi ar Wicidestun
Cydymdeimlad a'r Parch Peter Ellis Ruabon Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Yr Ynys Lawd

PECHOD.

TYDI yw hanfod anedwyddwch dyn,
Tydi yw unig elyn Duw ei hun;
Tydi yw awdwr poen holl gyrrau'r byd,
Tydi á siglodd drallod yn ei gryd,
Tydi a anadlodd dy ddifaol darth;
A droes ogoniant Eden deg yn warth :
Tydi sy'n tramwy megis cwmwl byw,
Drwy nefoedd dyn i guddio gwyneb Duw,
Neu fel rhyw ysbryd anweledig certh,
Bron, bron gorchfygu'r byd yngrym dy nerth :
Ond, pan anturiaist i Galfaria fryn,
Cyrhaeddaist tithau eitha’th bwynt pryd hyn,
Pan lymaist flaen yr erchyll bicell ddur,
Bwriadaist i'r Anwylyd farwol gur,
Tydi wenwynodd frigau tirf y drain,
Nes i'w Creawdwr waedu dan y rhain!
Ond, yno gwelaf bendigedig ddydd,
Y prynwyd ffordd i mi gael dod yn rhydd:
Pwy byth all ddweyd y taliad drud a gaed,
Pan yno'r Iesu Glân yn bechod wnaed?