Caniadau Buddug/Digon yw
Gwedd
← Sambo a'r bibell | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Yr eneth a'r gasgen → |
DIGON YW
Digon yr Iesu oedd dioddef ei hunan,
A'i enaid yn llwythog dan feiau y byd;
Digon i ninnau yw fod ynddo haeddiant
Yn ddigon anfeidrol i'n prynu i gyd.
Digon ei" Aberth foddlonodd y nefoedd,"
A digon ei fynwes sydd heddyw yn llawn;
Digon o gariad i hwylio colledig,
Hyd foroedd trugaredd at ddigon o "Iawn."