Caniadau Buddug/Yr eneth a'r gasgen

Oddi ar Wicidestun
Digon yw Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Helpu Iesu Grist

YR ENETH A'R GASGEN.

YR ENETH

PA beth yw'th waith di, gasgen?
Yr wyt o ddefnydd da,
O bren a fu yn tyfu
Yn rhywle 'ngwlad yr Ha!
Ai tybed fod dy fywyd
A roed dan haul y nen,
Yn cael ei deg gyrhaeddyd
A'i ddwyn yn bur i ben?

Y GASGEN

Na, na, yr wyf o'm hanfodd,
Yn gorfod bod fel hyn,
Camarfer mawr a'm gyrrodd
I ledu dorau'r glyn;
Y diafol fu'n cynllunio.
Ni thyr ef gregin gwag.
A dyna pam yr ydwyf
Yn cario diod frâg.

YR ENETH

O! gasgen, druan, druan,
Mae'n ddrwg gen i dy swydd,
Ond beth am ddynion egwan
Sy'n rhoi eu cyrff mor rhwydd,
Yn gasgiau wrth y miloedd,
Trybaeddant hyd y llawr,
Pryd dylent fod yn lluoedd
o demlau i'r Brenin Mawr.

Y GASGEN

O! eneth fach neu fachgen,
Dos dywed wrth y plant,
Am eiriol dros y gasgen
Sy'n aberth drud i chwant;
'Rwyf yma'n dra anfoddog
Yn gwneyd fy mhenyd waith,
Rhybuddia'r plant yn wresog
Na ddont i'm dyrus daith.

YR ENETH.

O! gasgen ddianrhydedd
Yr wyt yn wael dy lun,
Yn cario yn ddiddiwedd
Yr hyn a ddryga ddyn;
Mil gwell fuasai'th dynged,
A mwy fil mil dy barch,
Pe byddet yn ddiarbed,
Yn gwneyd i ddyn ei arch.

Pa beth a wnawn, O! gasgen,
I wella'th gyflwr tlawd?
'Rwy'n teimlo dros dy angen,
Fel pe baet chwaer neu frawd;
Gweddiwn ar Greawdwr
A wnaeth bob pren mor gun,
I newid trefn dy gyflwr,
Trwy newid calon dyn.