Caniadau Buddug/Fy Ngwlad

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search
Iesu yn agos Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)
Mewn album (2)
Sir Fôn Caniadau Buddug.jpg

FY NGWLAD

Ar gwendid ydyw caru ei wlad ei hun?
Yn well—yn gan mil gwell nac unrhyw un?
Os dyna yw, ymffrostio ynddo wnaf,
O gariad at fy ngwlad yr wyf yn glaf.
O Gymru deg! Yr wyt yn anwyl im,
Fy nghalon atat a ehed yn chwim,
Mae natur wedi'th freintio'n llawer gwell,
Mae'th fryniau bach yn uwch na'r bryniau pell
I mi, mewn hanes y mae rheiny'n fawr,
Ond ffaith weladwy wnaiff y bach yn gawr.
Mae'th eira'n wynnach! ac mae'th adar mân
Yn fil melusach yn eu swynol gan!
O'r braidd na thybiwn fod pelydrau'th haul
Yn fyrdd disgleiriach yn dy fro ddi—ail!
Ac megis seren mewn gogoniant gwyn
Yw Môn, hen famaeth gu y gwledydd hyn,
Gwyn fyd a sang dy dir; beth af i son?
Rwy'n credu fod y nef yn nes i Fon.