Caniadau Buddug/Iesu yn agos

Oddi ar Wicidestun
Huno yn yr Iesu Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Fy Ngwlad

IESU YN AGOS


'Rwyf yn galw, Iesu grasol,
Arnat o gyfynder mawr;
Mae fy mhechod llym gormesol
Bron a chael fy mhen i lawr.
Bydd yn Dduw o agos i mi,
Gyrr fy meiau oll ymhell,
Bydd yn agos at fy ngweddi,
Dyro sail gobeithion gwell.