Caniadau Buddug/Huno yn yr Iesu

Oddi ar Wicidestun
Miss A J Davies Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Iesu yn agos

HUNO YN YR IESU

IEUENCTYD tirion, llawen fryd,
Dewch gyda mi am enyd
weled gwir lawenydd byd,
A gwir lawenydd gwynfyd;
Llawenydd bywyd! nis gall fyw
Mor agos at farwoldeb;
Pwy byth yn llawen a all fod
Yn ymyl tragwyddoldeb?

Llawenydd bywyd! Na foed son
Fan yma am lawenydd,
Nis gellir bod yn llawen byth
Mor ddwfn yngwely cystudd;
Mae yma bawb yn wylo'n drist,
Galaru mae'r holl deulu;
Ond dyma un o ffrindiau Crist
Yn dechreu gorfoleddu.

Mae'r tonnau'n uchel o bob tu,
A'r dymestl yn gerwino;
Anadliad ferr y galon wan,
Bron, bron yn methu curo.
Gwrandewch ei sibrwd distaw hi,
Nis gall ond ei sibrydu,
Ond tery dant sydd fyny, fry,
A seinia'n beraidd ganu.

"O! distewch, derfysglyd donnau,
Tra fwy'n gwrando llais y Nef,
Swn mwy hoff a sain mwy hyfryd
Glywir yn ei eiriau Ef.
Fenaid gwrando, f'enaid gwrando,
Llais tangnefedd pur a hedd."


Nid oedd gallu dyn i roi
Tawelwch yn y tonnau,
Ymdrechion pawb yn ofer drodd
I lwgr-wobrwyo Angau,
'Doedd neb yn foddlon ond hyhi
Ei weled yn dod ati,
Ond plygodd hi ei phen yn foes
I'r genllif gario drosti.

Wynebodd arall fyd yn ddewr,
A'r glannau draw yn oleu,
Dim ond noswylio gyda bryd
I godi yn y boreu.
A brysiwch," meddai, ar fy ol, --
Yr ydych yn dynesu,'
A hunodd yn y dwyfol gol,
Gan sibrwd enw Iesu.