Caniadau Buddug/Miss A J Davies
Gwedd
← Ar briodas | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Huno yn yr Iesu → |
MISS A. J. DAVIES
(Bedford Street, Liverpool)
FE gerfiodd ei henw ar lechres anrhydedd,
Anwyldeb a'i paentiodd ar galon ei gwlad;
Gall oesau i ddyfod adnabod pob rhinwedd
Wrth ddarllen ei hanes mewn teilwng fawr—
had.
Mae hanes Miss Davies yn hanes i bara,
Tra enaid yn werthfawr—tra cariad yn ddrud,
Ceir enw ein gwrthrych gan bwyntil na wyra
Ar glawr anfarwoldeb pan dderfydd y byd.
Tywalltodd ei henaid i waith y Gwaredwr,
Y truan, adfydus, gyfrifai yn frawd;
Y meddwyn gyfodai o isder ei gyflwr,
Anghofiai ei hunan yn achos y tlawd.
Hi ydoedd Gamaliel i'r oes gydag addysg,
Hi ydoedd Dorcas i weinion y byd,
Meithrinfa ei chyngor oedd burdeb digymysg,
Elfennau ei haddysg oedd cariad i gyd.