Caniadau Buddug/Gwalia
Gwedd
← Ymson uwch bedd Golyddan | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Cymro mewn gwlad estronol → |
GWALIA
(Cyfansoddwyd i Madame Kate Rowlands)
O! RYFEDDDOL serch fy nghalon,
At fy Ngwalia, Gwalia Wen,"
A phe medrwn rhoddwn goron
Eurog, emog ar dy ben,
Gennyf mae 'rwy'n siwr er hynny,
Rywbeth sydd yn fwy ei nerth,
Calon bur yn caru Cymru,
Calon wladgar, dyna werth.
Wylaist, Gwalia, am Lywelyn,
Gwympodd er mor rymus wr;
Wylaist am arweinwyr cedyrn;
Do, galeraist am Glyndwr.
Gwalia, y mae yn dy oror,
Heddyw ddynion—meib dy dir,
Orchfygasant trwy egwyddor,
Safant heddyw ar y gwir.
Walia anwyl, daeth yn oleu,
Ar dy gyflwr erbyn hyn,
Mae ysbrydoedd ein cyndadau
Heddyw'n gweld dy fore gwyn;
Rhyddid wedi gwawrio arnat,
Canu ddylet ti yn awr,
Gormes mewn cadwynau danat,
Canwn bellach am y wawr.