Caniadau Buddug/Ymson uwch bedd Golyddan
Gwedd
← Golyddan yn ei gystudd | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Gwalia → |
YMSON UWCH BEDD GOLYDDAN
Er i'r hen ddaearen wisgo
Deirgwaith harddwisg natur gain,
Er pan roddwyd John i orwedd
Yn y briddell oer ddisain;
Ond ni wisgwyd ac ni wisgir
Unwaith ddim o'm hiraeth i,
Ac ni threulia amser bellach
Ddim o'r hiraeth ynof fi.
Adnewyddwyd gwyneb anian
Y doedd gynt yn llon a llwyd,
Adnewyddwyd blodau prydferth
I orchuddio Dyffryn Clwyd;
Adnewydda'm hiraeth innau
Tra bo cariad yn fy nghol,
Adnewydda claddu Ioan
Tra ty warchen ar y ddol.
Gwywo eto mae prydferthwch,
Cwympo eilwaith wnaeth y dail;
Natur sydd yn cael tymorau
Haf a gaeaf bob yn ail;
Tymor adnewyddu beunydd
Ydyw ar fy hiraeth i;
Nid oes aeaf fyth edwina
Hiraeth prudd sydd ynnof fi.