Caniadau Buddug/I'm hoff gyfeilles

Oddi ar Wicidestun
Colli John Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Y goleudy

I'M HOFF GYFEILLES

(Mewn Album)

'RWY'N hoffi gweld y dolydd teg
Yn dryfrith gan y meillion,
A gweld yr haul a'i wenau chweg
Yn gwrido'r blodau tlysion;
Ond mwy dymunol na'r rhai hyn,
Yw gweled menyw siriol,
Yn gwisgo addurniadau gwyn
o flodau byd ysbrydol.