Caniadau Buddug/Y goleudy

Oddi ar Wicidestun
I'm hoff gyfeilles Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Golyddan yn ei gystudd

Y GOLEUDY

MAE'R nos yn ddofn a'r gwynt yn gryf,
A rhuo'n groch mae'r môr yn hyf,
A'r tonnau'n hedeg megis plyf,
I'r glannau gan ewynu.
Mae traethell fawr beryglus draw,
A chraig ysgythrog sydd gerllaw,
Ac arnynt y teyrnasa braw,
A'i wyneb fel y fagddu.
Ond edrych ar y noswaith ddu,
Y storm a'i dwfn angeuol ru,
A gwyneb siriol, disglair cu,
A llawen mae'r Goleudy.

Mae llongau ar y tonnau draw,
Yn crynu fel mewn ingol fraw,
A'r nos a'r storm sy law yn llaw,
Yn parotoi i'w llyncu.
Mae'r porthladd oll yn llaw y nos,
Fel deilen grin yng ngwaelod ffos,
Ac Angau'n nghlust y storm ddwed "Dos,
Cawn heno gyd-orchfygu."
Ond rhwygo y tywyllwch cudd,
A chreu tanbeidiol siriol ddydd,
Yng ngheudod dwfn y noson brudd,
A'i wên y mae'r Goleudy.

Pob traethell ddofn, pob craig sydd draw,
A'r holl beryglon ar bob llaw,
Fel bryniau'r byd i'r golwg ddaw
O fynwes ddofn y fagddu.
A ffordd i'r porthladd geir yn glir,
Heb ofni'r gwynt, y môr, na'r tir;
I'r lan, i'r lan, i'r lan cyn hir,
Daw'r morwyr oll dan ganu.

Angori gânt y noswaith hon,
Heb ofnau i gyffroi eu bron,
O dan belydron gwyneb llon,
A disglair y Goleudy.

Rhyw borthladd cul peryglus yw
Y byd yr ydym ynddo'n byw,
Peryglon mawrion o bob rhyw
Sydd yn ein hamgylchynu,
Mae traethell fawr temtasiwn draw,
A chreigiau pechod ar bob llaw,
A nos o d'w'llwch megis braw,
Sydd drostynt yn teyrnasu.
Ond Iawn y Groes" er hyn i gyd,
Sydd yn pelydru ar ein byd,
Mab Duw, a'i ddwyfol angau drud,
Efe yw ein Goleudy.

O dan belydrau'r Dwyfol Iawn,
Ein ffordd yn glir i'r porthladd gawn,
Angori yn y nef a wnawn,
Wrth edrych ar yr Iesu.
Ei fywyd pur, a'i eiriau Ef,
Ei aberth a'i eiriolaeth gref,
Ei fywyd trosom yn y nef,
A wnaiff ein llwyr waredu.
Er fod y nos yn ddofn a phrudd,
Mae'r Iesu'n gwneyd y nos yn ddydd,
Edrychwn arno Ef trwy ffydd,
Efe yw ein Goleudy.