Caniadau Buddug/I'r bardd J T Job
← Canu yn oes oesoedd | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Anogaeth i ferch ieuanc ganu → |
I'R BARDD J. T. JOB
"Blwyddyn newydd ddedwydd dda,
Chwenychaf i chwi'n ucha."—(Calenig)
IE boed y flwyddyn newydd
I chwi'n dda o ben i ben,
Pob munudyn ynddi'n ddedwydd,
Heb i gwmwl dduo'ch nen
Oni fydd yn gwmwl goleu
Deifl brydferthwch ar y donn,
Gyda melyn aur ymylau
Adlewyrcha hedd i'ch bron.
Nefoedd anwyl, bydd drugarog,
Wrth dy blentyn, wrth y bardd,
Dyro iddo ddal yn ffyddiog
Er i'r gwyntoedd ddeifio'i ardd.
Dyro iddo ddameg" arall,
Dal ei olwg tua'r wawr,
Torred arno flwyddyn ddiwall,
Nefoedd eilwaith ar y llawr.
Dyro iddo Salmau Seion,
Mewn melusder megis cynt,
Tynn y prudd—nod o'i alawon,
Caned eto ar ei hynt;
Rym yn disgwyl am ei delyn
Fu mor lawn o ysbryd cerdd,
Brysied Job a'i allu dillyn,
Gyda'i awen fythol werdd.
Awyr las uwch ben y byd,
Gofid gadwer yn ei gryd,
Haul y nefoedd fo'n tywynnu,
Blodau cysur fyddo'n gwenu,
Adar amgylchiadau'n canu,
Fyddo'r flwyddyn ar ei hyd.