Caniadau Buddug/Canu yn oes oesoedd

Oddi ar Wicidestun
Ar ymadawad cyfaill i'r America Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
I'r bardd J T Job

CANU YN OES OESOEDD

Os mynnwn fod ynghôr y nef,
Yn canu gyda'r seintiau,
Os mynnwn gael y delyn aur,
A'r goron ar ein pennau;
Rhaid i ni garu Iesu Grist,
A charu plant y nefoedd,
O dyna hyfryd, hyfryd waith,
Fydd canu yn oes oesoedd.

Os gorfod arnom ar ein taith
Fydd mynd drwy ddyffryn galar,
Cawn deg arweinydd, Ceidwad cu
A fu yn rhodio'n daear;
Ac yn ei gwmni Ef fynd trwy
Y dy froedd a'r tymhestloedd,
O dyna hyfryd, hyfryd waith,
Fydd canu yn oes oesoedd.

Os mynnwn fod ynghôr y nef,
Rhaid ini fedru'r anthem,
Ac yma mae yr ysgol râd,
I ddysgu carol Bethl'em;
Dewch, anwyl blant, i chwyddo'r dôn,
A seiniwn byth a bythoedd,
O dyna hyfryd, hyfryd waith,
Fydd canu yn oes oesoedd.