Caniadau Buddug/Ar ymadawad cyfaill i'r America

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cyfarchiad priodasol Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)
Canu yn oes oesoedd

AR YMADAWIAD CYFAILL I'R AMERIG

WRTH adael hen froydd a bryniau dy wlad,
Wrth adael dy liaws cyfeillion,
Wrth adael yr aelwyd dy fagodd mor fad,
A'r fron a'th anwylodd mor dirion,
Gadewi ar unwaith galonnau fel dur,
A gura mewn serch wrth dy gofio,
Gadewi weddiau esgynnant yn bur,
I ofyn am engyl i'th wylio.

Tra llwyddiant a ffynn dy waith dros y donn,
A'th wyneb at dir y Gorllewin,
Esgyned ochenaid o ddyfnder dy fron,
Wrth adael dy lenyrch cysefin.
Ar ol i'th fwriadau di ddyfod i ben,
O boed i dy fynwes gynhyrfu,
A bydded i'th hiraeth dan fendith y nen
Dy hwylio di eto i Gymru.

Y llwybrau a gerddaist ddiferant gan fyrr
Daioni, rhy ddrud i'w bwrcasu,
Arogledd dy enaint yn ddiau a dyrr
Ar ben dyrchafedig yr Iesu.
Wrth godi dy gyd—ddyn crwydredig o'r llaid,
Wrth wasgar dy fynych gymwynas,
Cei anfon i fyny dy weddi ddibaid,
A llefain, "deued dy deyrnas."

Tra pery y Gobaith, y Cariad, y Ffydd,
I ennyn fel tân yn dy fynwes;
Tra gelyn dynoliaeth yn rhodio yn rhydd,
Atalia di gamrau ei ormes:

Parhaed dy berffeithrwydd lle bynnag yr ai,
Parhaed caredigrwydd dy galon,
A Duw tragwyddoldeb a ddyry'n ddi—lai
Barhad ar brydferthwch dy goron.