Caniadau Buddug/Cyfarchiad priodasol
Gwedd
← Fy anwyl ffrynd | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Ar ymadawad cyfaill i'r America → |
CYFARCHIAD PRIODASOL
BENDITH ar eich uniad glân,
Boed eich oes yn oes o gân;
Boed digonedd o bob dawn,
Iechyd da a chwpwrdd llawn,
Cariad pur yn torri drosodd,
Nefoedd yn y ddeufyd trwodd.