Caniadau Buddug/I ferch ieuanc

Oddi ar Wicidestun
Cymro mewn gwlad estronol Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Y bedd

I FERCH IEUANC

A WELI di yr eneth lon,
Feithrinwyd ar aelwyd glyd,
Yn awr heb bigyn dan ei bron,
A'i llwybrau yn wyn i gyd;
Gofalaeth tad, a chariad mam,
Sy'n gylchoedd o'i hamgylch hi;
Hithau ymddengys mor ddinam,
Yn llawn hoenusrwydd a bri.

Ymlaen yr a, dadblyga'n deg,
Fel blodyn tirionaf gardd,
A pherarogledd rhosyn chweg,
Yn gwasgar o'i bywyd hardd;
Mae engyl gwawr yn gwylio hon,
Fel gosgordd o'r drydedd nef,
A phelydr byw ei llygaid llon,
Gyfeiriant hyd ato Ef.

Blodeuyn prydferth ydoedd hi,
Yn cario lliwiau'r nef
A pherarogledd rhwng y dail
Yn sawru o'i arogl Ef;
Nid rhyfedd i'w rhieni hoff
Ei charu ar y llawr,
Yr un mor fuan oedd i fod
Ym mhwysi'r Brenin Mawr.

Daeth Haul Cyfiawnder yn ei rym,
Tywynnodd yn ei bron,
A gwnaeth ei hysbryd peraidd hi,
Ry dda i'r daear hon;

Ehedodd fry uwch llygredd byd,
A gwisg ddilychwin wen,
Ac engyl nef ar frys am roi
Y goron ar ei phen.