Caniadau Buddug/Y bedd

Oddi ar Wicidestun
I ferch ieuanc Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Cariad gwraig y meddwyn

Y BEDD

Y BEDD, O gysegredig fan,
Cartrefle dynol ryw i gyd;
Paham dychryna'r galon wan,
Wrth feddwl am y daith o hyd?

Y fan "lle bu ein Harglwydd glân,
Paham dychmygwn bethau cas?
Prif gyrchfan pawb o fawr i fân,
Yw'r " fan "o dan dywarchen lâs.

Y baban oddiar y fron,
Yr eneth ieuanc heinyf iach,
Y gwr o ganol teulu llon,
A'r fam oddiwrth ei baban bach,—

Mae'r bedd yn gysegredig, pam?
Am mai anwyliaid yno sydd;
I bawb mae brawd, chwaer, tad neu fam,
Ac yno ninnau'n union fydd.

O planner blodau ar bob bedd,
A gwneler y fynwent megis gardd;
Cysyllt-nod yw a'r nefol hedd,
Trwy'r bedd yr Adgyfodiad dardd.