Caniadau Buddug/Megis deilen
Gwedd
← Mis Tachwedd | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Gyda'r tannau → |
MEGIS DEILEN.
MEGIS deilen y gwywasom,
Megis deilen y syrthiasom,
Megis deilen yw ein hynt;
Fel y ddeilen, byw am ennyd,
Yna dygir ni mewn munud,
Megis deilen gyda'r gwynt.
Gwyntoedd croch ein llym anwiredd,
Arnom chwyth yn ddidrugaredd,
Pwy a'n cwyd o'r domen drwch?
Gwaeddwn arnat, Iesu hawddgar,
Gwisgaist ti bridd gwael y ddaear,
Cofia'r tlawd sydd yn y llwch.
Geidwad dyn, mae gobaith eto,
Er fel deilen i ni gwympo,
Planner ni ar lan y lli,
Afon cariad tragwyddoldeb,
Dyna wyrddlas anfarwoldeb,
Yno byth ni wywn ni.