Caniadau Buddug/Gyda'r tannau

Oddi ar Wicidestun
Megis deilen Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Joseph yn hysbysu ei hun

GYDA'R TANNAU.

HOFF yw gennyf sain y delyn,
Ar hyd y nos:
Ymlid ymaith ofn y gelyn,
Ar hyd y nos:
Swynol ydyw ei pher seiniau,
Iaith (yr) enaid ar ei thannau,"
Dyna'n fwyaf garaf finnau,
Ar hyd y nos.

Mae fy nghariad ar y wen donn,
Ar hyd y nos:
Curo drosto mae fy nghalon,
Ar hyd y nos:
Boed i'r ser a'r lloer ei wylio,
Boed amddiffyn nefoedd drosto,
Nes y delo adref eto,
Ar hyd y nos.