Caniadau Buddug/Morwynig fach o'r Bala
← Cenhadwr y Morwyr | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
O fe fydd yn haf o hyd → |
MORWYNIG FACH O'R BALA
DAETH morwynig fach o'r Bala,
I Gaergybi i roi tro,
Geneth heinyf, iach ei gwala,
Mae yn fraint ei chael i'r fro;
Dawnsia bywyd ar ei hemrynt,
Harddwch a fantella'i grudd,
Gwên ei genau sydd o danynt,
Ymlid hwnt bob meddwl prudd.
Mwy na hynny, mae athrylith,
Yn ymddangos uwch ei hael,
Na foed lle ynglyn a'r fendith,
I gartrefu meddwl gwael;
Gwell na'r cyfan, mwy o lawer,
Uwch bob croes a siomiant trist,
Yw dy fod, fy ngeneth syber,
Yn anwylo Iesu Grist.
Y mae swn hen Haleliwia
Emynyddes Cymru Lân,
Fyth yn hofran ger y Bala,
Er pan roes y wlad ar dân.
Sanctaidd dân mewn angerddoldeb,
Nid oedd ond morwynig wan,
Tithau, dyro anfarwoldeb,
Ychwanegol ar y fan.
Bydd yn Galvin ran dy grefydd,
Gras am unwaith, gras am byth,
Bydd yn Wesley hefyd beunydd,
Mewn gweithredoedd da di lyth,
Bydd yn Fabtist, dwr rhinweddol,
Glendid mawr i ti a ddwg,
Bydd yn Anibynnol hollol
Ar gynlluniau yr un drwg.
Cerdd ymlaen, enethig wiwlon,
Gwylia dynnu'th nod i lawr;
Cadw'n gynnes dan dy ddwyfron
Gariad at dy Geidwad mawr.
Mae i'th degwch yn dy yrfa,
A'th dalentau gloewon drud,
Neges fawr o law Jehofah,
Dysgu honno yn y byd.