Caniadau Buddug/O fe fydd yn haf o hyd

Oddi ar Wicidestun
Morwynig fach o'r Bala Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Bore Gwanwyn

"O FE FYDD YN HAF O HYD."

O! Fe fydd yn haf o hyd,
Lle mae Iesu'n haul y byd,
Lle mae aur delynau'r nefoedd,
Lle mae "Lili y Dyffrynoedd,"
Minnau'n ieuanc yn oes oesoedd,
O! fe fydd yn haf o hyd.

O! fe fydd yn haf o hyd,
Lle mae Iesu'n haul y byd,
Lle blagura "Rhosyn Saron,"
Fan lle mae anniflan goron,
Wedi cyrraedd "Mynydd Seion,"
O! fe fydd yn haf o hyd.