Caniadau Buddug/Neges y blodeuyn

Oddi ar Wicidestun
Nodyn cynta'r tymor Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Y bachgen Iesu

NEGES Y BLODEUYN.

'Rwy'n anfon y blodeuyn
I siarad drosof fi;
I gario serch fy mynwes lawn,
Yn uniawn atat ti:
Gwrandawer ei ystori,
Mewn iaith berswynol glir,
Nis gall athrylith blodau'r ardd,
Ond hardd fynegi'r gwir.

Fel perarogledd hyfryd,
Yw serch o galon iach;
Anfonaf finnau ran ddiail,
Rhwng dail y blod'yn bach :
Bydd marw hwn yn ebrwydd,
Edwina'r coch a'r gwyn,
Ond bydd ei genadwri dlos
Yn aros wedi hyn.

Gobeithio byddwn ninnau,
Fel blodau teg eu gwrid,
Yn cwblhau ein gwaith mewn hedd,
A pherarogledd prid;
Bydd raid i minnau farw,
Ond marw i ddechreu byw,
O! am gael bod yn rhai a dardd
Yng ngardd paradwys Duw.