Caniadau Buddug/Nodyn cynta'r tymor

Oddi ar Wicidestun
Ar dderbyniad pwysi o lilac Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Neges y blodeuyn

NODYN CYNTA'R TYMOR.

MAE bronfraith gynta'r flwyddyn
Yn pyncio ar y brigyn
Wrth glywed hon, a'i halaw lon
Anghofia'r fron ei phigyn,
Mae'r gaeaf du yn cilio,
A'r stormydd ar noswylio,
A heulwen braf,
Yn awgrym gaf,
Fod hirddydd haf ar wawrio.

Mae cân y fronfraith dirion,
Uwch mynwent ei chyfeillion,
Yn dweyd yn awr, uwch beddau'r llawr,
Y tyrr y wawr yn union:
Mae nodyn cynta'r tymor,
Yn galw myrdd yn rhagor ;
Gobeithion gwyn,
O lawr y glyn,
Ddechreuant syn ymagor.

Bedyddir dol a dyffryn,
Gan fywyd gwyneb blwyddyn,
A dwg i'r lan, o'r eira cann,
Yr eiddıl gwan eginyn;
Ti fendigedig fywyd,
Agori feddau'r gweryd,
O! enaid clyw,
Cei dithau fyw,
Cyhyd a'r Duwdod hefyd.

Mae tant y fronfraith fwynber,
Dan awel gwanwyn dyner
Yn wir yn dwyn im ryfedd swyn
A'i seiniau mwynion syber;

Mae salm yr adgyfodiad
Ar fin pob gwan flaen-darddiad,
Ac yn eu gwaith 'rol gaeaf maith
Cyhoeddant iaith traddodiad.